Dewis iaith: Cymraeg / English

System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (ver 4.0)

Telerau ac Amodau Defnydd

Mae’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn berthnasol i ddefnyddwyr newydd a defnyddwyr cyfredol rhyngwyneb gwe System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS). Trwy dderbyn, a pharhau i ddefnyddio’r rhyngwyneb gwe, mae’r defnyddiwr yn cytuno i gadw at y telerau ac amodau defnydd hyn mewn cysylltiad â data, gwybodaeth a hysbysrwydd a geir wrth ddefnyddio’r rhyngwyneb gwe.

Niferoedd Bach
Mae’r data a gyflwynir ar y wefan yn rhoi manylion pellach ar lefelau bach. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyfyngu fel arfer pan fydd yn cael ei chyflwyno yn y parth cyhoeddus. Rhoddir mynediad i chi i’r rhifau bach hyn ond ar yr amod eich bod yn deall mai at ddibenion rheoli’r GIG yn unig y maent yn cael eu darparu. Mae eu rhyddhau i’r parth cyhoeddus neu roi unrhyw sylw cyhoeddus am yr ystadegau hyn yn groes i delerau ac amodau mynediad i ryngwyneb gwe WNWRS.

Ataliwch unrhyw ddefnydd amhriodol ar y data o fewn y Rhyngwyneb Gwe Gofal Sylfaenol drwy drin yr wybodaeth hon fel gwybodaeth gyfyngedig, gan beidio â phasio’r wybodaeth ymlaen i bobl eraill sydd heb dderbyn hawl mynediad o flaen llaw a thrwy ei defnyddio dim ond at y dibenion y darparwyd hi ar eu cyfer.

Defnyddio’r Safle Wrth Symud Ymlaen a Thrwydded
Mae erthyglau unigol ac eitemau eraill a gyhoeddir o fewn y rhyngwyneb gwe wedi eu diogelu gan hawlfraint. Mae trwydded gennych chi i gyrchu a defnyddio rhyngwyneb WNWRS ar gyfer anghenion gwybodaeth y GIG. Nid oes modd i’r hawliau a roddir o dan y cytundeb hwn gael eu trosglwyddo, eu gwerthu, na’u rhentu i neb arall. Gofynnwn i chi beidio â thynnu unrhyw rybuddion hawlfraint na hysbysiadau eraill sydd wedi eu cynnwys mewn deunyddiau a gyrchir o ryngwyneb gwe WNWRS.

Cewch lawrlwytho neu argraffu dogfennau, adroddiadau neu eitemau unigol eraill o’r deunyddiau sydd ym modiwl adrodd WNWRS. Gwaherddir lawrlwytho yr un dogfennau nifer o weithiau a/neu archifo defnyddiau o’r rhyngwyneb gwe gofal sylfaenol, a gwaherddir creu copïau niferus o ddogfennau unigol ar gyfer ymchwil a/neu hyfforddiant. I gael caniatâd i gopïo y tu hwnt i hynny a ganiateir, cysylltwch ag PCGC (ebost: NWSSP.PrimaryCareWNWRS@wales.nhs.uk).

Mae unrhyw ailddefnyddio gwybodaeth o ryngwyneb gwe WNWRS, y tu hwnt i’r hyn a ganiateir, yn dod o dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005. I gael caniatâd i ailddefnyddio gwybodaeth o’r WNWRS cysylltwch ag PCGC (ebost: NWSSP.PrimaryCareWNWRS@wales.nhs.uk).

Dylai unrhyw ddefnydd ar ddeunyddiau rhyngwyneb gwe gofal sylfaenol WNWRS, yn eu cyfanrwydd neu’n rhannol, gynnwys dyfyniad llyfryddiaethol arferol, gan gynnwys enwi’r awdur, dyddiad, teitl y cyhoeddiad/ddogfen, System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu PCGC oni nodir yn wahanol.

Byddwn yn trefnu bod mynediad electronig i ryngwyneb gwe WNWRS ar gael i chi drwy ein gweinydd, heb godi tâl. Chi sy’n gyfrifol am yr holl gostau sy’n gysylltiedig â mynd i mewn i’r WNWRS, gan gynnwys unrhyw offer cyfrifiadurol, cysylltiadau ffôn neu ryngrwyd, a meddalwedd cyrchu. Ninnau fydd yn penderfynu ar yr oriau argaeledd a gallai’r rhain newid heb rybudd. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw unigolyn a rhwydwaith.

Mae PCGC yn sicrhau bod yr wybodaeth ar y safle hwn yn gywir, ond nid ydynt yn rhoi unrhyw warant datganedig neu ymhlyg am gywirdeb yr wybodaeth.

Mae rhyngwyneb gwe WNWRS, a’r deunyddiau a gynhwysir ynddo, yn cael eu darparu ar sail “fel y mae”, “fel y mae ar gael” ac mae PCGC yn diarddel pob gwarant, gan gynnwys y rheiny a ddatgenir neu a awgrymir. Rydych yn defnyddio rhyngwyneb gwe WNWRS ar eich risg eich hun, ac mae ymyriad i’ch mynediad yn bosibl ac efallai y bydd gwallau.

Ni fydd PCGC yn atebol am iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, arbennig neu ganlyniadol neu iawndal cosbedigol sy’n codi o:

  • Eich defnydd neu anallu i ddefnyddio rhyngwyneb gwe WNWRS
  • Unrhyw wallau neu hepgoriadau yn y deunyddiau sydd wedi eu cynnwys yn rhyngwyneb gwe WNWRS
  • Cynnwys rhyngwyneb gwe WNWRS
  • Cynnwys unrhyw safleoedd eraill ar y Rhyngrwyd a allai fod yn gysylltiedig â rhyngwyneb gwe WNWRS, neu unrhyw ddeunydd gan drydydd parti y gellir ei gyrchu drwy ryngwyneb gwe WNWRS

Preifatrwydd
Trwy ddarparu eich manylion i ni, rydych yn rhoi eich caniatâd y gall eich gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu at y dibenion sy’n angenrheidiol i weithredu a gwella ein gwasanaethau.

Cadwn yr hawl i addasu telerau’r cytundeb hwn unrhyw bryd.

Wrth fynd i mewn i ryngwyneb gwe WNWRS (https://www.nwrs.wales.nhs.uk/) mae defnyddwyr yn cydsynio y gall PCGC gysylltu â nhw at ddibenion eu hysbysu am echdynnu data.

Cliciwch yma i ddychwelyd i’r dudalen fewngofnodi.