National Workforce Reporting System (ver 4.0)
Ynghylch yr WNWRS
Rhedir System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu gan NHS Digital i gasglu a chyflwyno data am y gweithlu Gofal Sylfaenol. Mae dau fodiwl yn yr WNWRS a gellir eu cyrchu drwy’r porth hwn.
Mae’r modiwl mewnbynnu data yn ddiweddariad i’r modiwl cyfrifiad y gweithlu blaenorol, a dyma lle gall practisau cyffredinol ychwanegu gwybodaeth am eu gweithlu, er mwyn cyflawni eu gofynion ar gyfer Set Ddata Sylfaenol y gweithlu (wMDS).
Mae’r modiwl adrodd yn cynnwys cyfres o adroddiadau sy’n cynnwys data anghanfyddadwy, cyhoeddedig am weithlu Meddyg Teulu a ddarperir gan y practisau Meddyg Teulu. Dyma rai o nodweddion y modiwl:
- • Y gallu i deilwra adroddiadau i ofynion y defnyddiwr, ar sail grŵp, rôl swydd, oedran a rhywedd y staff.
- • Mynediad i ddata ar gyfer pob cyfrifiad yn ôl i fis Medi 2015
- • Siartiau a data ategol y gellir eu lawrlwytho
- • Adroddiadau am ansawdd data i ganfod yn gyflym ac yn rhwydd y practisau sydd â phroblemau gydag ansawdd data
Dylai defnyddwyr y Gwe-offeryn Gofal Sylfaenol sydd angen mynediad i’r NWRS gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth drwy glicio yma. Dylai caniatâd eich practis symud gyda chi pan fyddwch yn creu cyfrif defnyddiwr newydd.
Wedi Anghofio’r Cyfrinair
Rhowch eich cyfeiriad e-bost.